Gwasanaethau

Fel Practis Cyffredinol yng Ngorllewin Cymru, rydym yn cynnig amrediad llawn o wasanaethau.

  • Paratoi cyfrifon
  • Archwilio cyfrifon
  • Gwaith Cydymffurfio Treth
  • Ffurflenni Treth Hunan-Asesu
  • Cyngor ar sustemau cyfrifo
  • Paratoi Ffurflenni TAW
  • Gwybodaeth Rheoli
  • Blaenamcanu Llif Arian

Cyngor Treth

Byddwn yn cydnabod pwysigrwydd allweddol cynnig cyngor amserol ar dreth. Ar gyfer materion mwy cymhleth, defnyddiwn ymgynghorydd sydd yn darparu cefnogaeth dechnegol ardderchog yn ogystal â chynorthwyo gydag Archwiliadau Cyllid y Wlad a Thollau Tramor a Chartref.

Sustemau Cyfrifo

Er nad ydym yn darparu gwasanaeth cadw llyfrau byddwn yn cynghori ar y ffurf mwyaf addas o gofnodi cyfrifon. Er bod gan nifer o'n cleientiaid sustemau llaw digonol mae'n bolisi gennym i'w hannog i ddefnyddio meddalwedd cyfrifo.

SAGE

Yn ogystal â defnyddio meddalwedd SAGE ein hunain byddwn yn annog ein cleientiaid i osod eu sustemau cyfrifo ar gyfrifiadur fel bod modd iddynt reoli eu materon ariannol eu hunain.

Fel aelodau o Glwb Cyfrifwyr SAGE, gallwn eich cynorthwyo gyda chyngor a hyfforddiant.

Gwybodaeth Rheoli

Byddwn yn pwysleisio pwysigrwydd paratoi cyfrifon rheoli cyson a diweddar.

Rhaid i bob busnes edrych ymlaen, felly byddwn yn paratoi blaenamcanion llif arian a chynlluniau busnes.

Bydd cydrannau allweddol a chymarebau, yn arbennig canran elw gros a gerio, yn cael eu dadansoddi a'u cymharu gyda chyfnodau blaenorol ac ystadegau'r diwydiant.

Ychwanegu Gwerth

Rydym yn aelodau o'r Rwydwaith Ychwanegu Gwerth (Value Added Network) o gyfrifwyr; rhwydwaith o gyfrifwyr yw hyn sydd yn ymrwymo i gynorthwyo busnesau perchen-reoli y DU i fod mor llwyddiannus a hwylus i'w rhedeg ag unrhyw fusnesau yn y byd.

Ymgynghoriaeth Ang- nghydymffurfio

Yn unol ag athroniaeth y Rhwydwaith Ychwanegu Gwerth, dim ond os bydd cleientiaid wedi cael gwerth gwirioneddol oddi wrth yr ymgynghoriad y byddant yn talu.

Hawlfraint Llŷr James 2005-2008 | Termau a Thelerau