LLŶR JAMES

Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ac

Archwilwyr Cofrestredig

CYFRIFYDD RHANNOL CYMWYSEDIG NEU CHYFRIFYDD DAN HYFFORDDIANT

 

Rydym yn chwilio am berson i ymuno gyda’n tîm brwdfrydig yng Nghaerfyrddin. Mae gennym amryw o gleientiaid dros Gymru gyfan ac ym mhellach ac rydym yn cynnig gwasanaeth llawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn cynnig hyfforddiant llawn ar bob agwedd o gyfrifeg yn arwain at gymwysterau proffesiynol. Telir holl gostau’r hyfforddiant a ffioedd arholiadau.

Disgrifiad o ddyletswyddau:-

Cyfrifydd Rhannol- Gymwysedig

  • Paratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau
  • Cwrdd gyda’n cleientiaid i drafod y cyfrifon a’u cynlluniau
  • Paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau
  • Bod yn rhan o dîm archwilio
  • Paratoi Ffurflenni TAW
  • Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol

Cyfrifydd Dan Hyfforddiant

  • Helpu i baratoi cyfrifon ar gyfer amryw o fusnesau
  • Delio gydag Ymholiadau wrth ein cleientiaid
  • Helpu paratoi ffurflenni treth i unigolion, partneriaethau a chwmnïau
  • Bod yn rhan o dîm archwilio
  • Paratoi Ffurflenni TAW
  • Gweithio gyda’n cleientiaid i’w paratoi nhw ar gyfer Troi Treth Yn Ddigidol

Gofynion

  • Yn hapus i siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg
  • Profiad o ddefnyddio Word ac Excel
  • Profiad gyda QuickBooks, Xero neu Sage yn fantais ond ddim yn ofynnol
  • Yn hapus yn gweithio mewn tîm ac ar ben eich hunan
  • Sgiliau cyfathrebu da
  • Prydlondeb
  • Oriau’r swyddfa yw 9-5 o Ddydd Llun i ddydd Gwener.

 

Mae’r cyflog yn ddibynnol ar brofiad a sgiliau.

 

 

Dyddiad Cau: 19 Mai 2025 

Danfonwch eich CV at Bethan Vaughan

e-bost: bethanv@llyrjames.co.uk

25 Stryd Y Bont, Caerfyrddin, SA31 3JS